Fe fydd trafodaethau dros ddyfodol Wayne Rooney, ymosodwr Manchester United, yn parhau heddiw ar ôl i grŵp o bobol brotestio y tu allan i’w gartre’ neithiwr.

Roedd rhwng 20 a 30 o bobol wedi ymgynnull y tu allan i gartre’ Rooney am tua 8.30yh, ac fe fu’n rhaid i’r heddlu wasgaru’r dorf.

Mae’r ymosodwr wedi dweud ei fod am adael y clwb oherwydd nad oes sicrwydd y bydd y clwb yn buddsoddi yn y garfan yn ystod y blynyddoedd nesa’.

Dyledion

Mae Rooney wedi cwestiynu faint o uchelgais sydd gan y clwb, a hynny oherwydd bod nifer o sïon yn awgrymu bod dyledion Man U dan berchnogaeth y teulu Glazer yn mynd i amharu ar ddatblygiad y clwb.

Mae yna adroddiadau y gallai Rooney ymuno gydag un o elynion penna’ y clwb, sef Manchester City. Does dim llawer o glybiau’n Ewrop a fyddai’n gallai fforddio prynu’r Sais, ond mae clwb Eastlands yn un o’r ychydig rhai sydd gyda’r arian i wneud hynny.

Fe fyddai hynny’n ergyd mawr i Manchester United wrth iddynt geisio cynnal eu statws fel prif glwb y ddinas.

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Ferguson bod Rooney am adael fe ymatebodd nifer o gefnogwyr yn ffyrnig gan gyhuddo Rooney o ddiffyg ffyddlondeb a’i fod yn meddwl am ddim byd ond arian.

Fe gafodd ei dargedu gan ganeuon canran o gefnogwyr Man Utd yn ystod gêm Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Bursaspor nos Fercher.

Cyfarfod

Roedd rheolwr y clwb, Syr Alex Ferguson yng nghyd a’r Prif Weithredwr, David Gill, wedi cynnal trafodaethau am ddyfodol Rooney ddoe.

“R’y ni’n ymwybodol bod yna ddiddordeb mawr gan y cyhoedd a’r cyfryngau, ond does dim datblygiadau ar hyn o bryd,” meddai datganiad gan y clwb.

“Fe allwn ni gadarnhau bod yna sawl cyfarfod wedi cael eu cynnal, gan gynnwys rhai gyda chynrychiolwyr y chwaraewr.

“Fe fydd canlyniad y cyfarfodydd yn dod yn fwy clir yn y dyfodol. Yn y cyfamser, r’yn ni’n gofyn i gefnogwyr i fod yn amyneddgar.”