Mae eithafiaeth Islamaidd radicalaidd yn cael ei bregethu’n agored yn un o brifysgolion canol Llundain, yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
Dywed yr adroddiad gan y mudiad Quilliam – grŵp Islamaidd sy’n gwrthwynebu eithafiaeth o fewn eu crefydd – fod tystiolaeth fod cymdeithas Islamaidd myfyrwyr Prifysgol Dinas Llundain yn hyrwyddo ideoleg galed ac eithafol.
Mae llywydd y gymdeithas, Saleh Patel, yn cael ei ddyfynnu’n pregethu’r angen i “dorri llaw’r lleidr, llabyddio’r godinebwr a lladd y gwrthgiliwr”.
Yn ôl myfyrwyr sydd wedi cael eu holi ar gyfer yr adroddiad, mae aelodau’r gymdeithas Islamaidd yn codi ofn ar fyfyrwyr Iddewig ac ar fyfyrwyr hoyw.
Meddai awdur yr adroddiad, Lucy James: “Mae’n frawychus fod eithafiaeth o’r fath yn cael ei hyrwyddo’n agored ar gampws prifysgol yng nghanol Llundain.
“Fe all eithafiaeth o’r fath greu rhaniadau peryglus mewn colegau, ac os nad eir i’r afael ag ef, fe all arwain at derfysgaeth.
“Mae angen i benaethiaid prifysgolion gydnabod y broblem a gweithredu.”
Llun: Prifysgol Dinas Llundain (o wefan y brifysgol)