Fe fydd yr ymgyrchydd hawliau sifil o America, y Parch Jesse Jackson, yn pwyso ar Aelodau Seneddol San Steffan yr wythnos yma i gofio am dlodion y Trydydd Byd.

Fe fydd yn ymuno â chefnogwyr yr elusen Cymorth Cristnogol o dros 350 o etholaethau i lobïo Aelodau Seneddol ddydd Mercher – i gydamseru â chyhoeddi’r adolygiad cynhwysfawr ar wario.

“Rydyn ni’n deall fod amesrau’n galed, yn America ac ym Mhrydain, ond mae hi’n well arnon ni nag ar ein cymdogion yn y byd sy’n datblygu,” meddai.

“Cawn ein hatgoffa yn y Testament Newydd fod yr Iesu’n ein dysgu i fwydo’r newynog, gwisgo’r noeth a chysgodi’r digartref.

“Felly wrth inni ymladd dros swyddi a heddwch a chyfiawnder ym Mhrydain ac America, rhaid inni gofio cadw gobaith yn fyw i’n brodyr a’n chwiorydd yn Affrica, yn y Caribî, yn
Ne Asia ac i bawb mewn angen ledled y byd.”

Dywedodd prif lobïwr Cymorth Cristnogol, Paul Brannen, fod dydd Mercher yn ddiwrnod pwysig iawn yn y calendr gwleidyddol ac i Brydain.

“Fe fydd yr Adolygiad Cynhwysfawr ar Wario’n sicrhau y bydd y mwyafrif o Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, gan rod cyfle delfrydol i’n cefnogwyr lobïo eu cynrychiolydd lleol.

“Gyda thoriadau gwario ar y gweill, a mwy na 200 o Aelodau Seneddol newydd, mae’n hanfodol ein bod ni’n eu lobïo nhw ar yr angen am weithredu ar frys ar newid yn yr hinsawdd ac osgoi trethi, sy’n effeithio ar filiynau o bobl sy’n byw mewn gwledydd sy’n datblygu.”

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Jesse Jackson, ymgyrchydd huawdl dros gyfiawnder cymdeithasol yn ymuno â ni i gyfleu ein negeseuon i lywodraeth Prydain.”

Llun: Y Parch Jesse Jackson (o wefan y Blaid Ddemocrataidd)