Mae mab hynaf arweinydd unbenaethol Gogledd Korea, Kim Jong Il wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu’r trosglwyddo pŵer yn y wlad i’w hanner brawd ieuengaf.

Fe ddaw sylwadau Kim Jong Nam ar ôl i Kim Jong Un gael ei gyhoeddi’n olynydd i’w dad yn Pyongyang.

Fe gafodd sylwadau Kim Jong Nam eu dangos ar sianel deledu Asahi yn Japan.

Am gyfnod y gred oedd mai’r mab hynaf oedd yr olynydd tebygol i’r unben ond yr amheuaeth yw eu bod wedi ffraeo ar ôl i Kim Jong Nam geisio teithio i Japan gyda phasbort ffug yn 2001.

Ond er ei fod yn gwrthwynebu’r trosglwyddo gryn, fe ddywedodd Kim Jong Nam y dylai’r drefn gael ei derbyn os oedd amgylchiadau’r wlad yn mynnu hynny.

Llun: Kim Jong Il (AP Photo)