Mae’r Gymraes ifanc Jazz Carlin wedi ennill ei hail medal yng Ngemau’r Gymanwlad wrth gipio efydd yn y ras 400m dull rhydd.
Roedd y ferch 19 oed wedi ennill medal arian yn ras 200m dull rhydd ddydd Llun, ac mae’r efydd heddiw yn coroni wythnos anhygoel i’r nofwraig.
Saesnes yn ennill aur
Y Saesnes a’r pencampwraig Olympaidd, Rebecca Adlington enillodd y ras mewn amser o 4:05.68 gyda Kylie Palmer o Awstralia’n aur.
Fe arweiniodd Adlington o’r cychwyn cyntaf gan ennill yr aur yn weddol gyfforddus. Roedd pethau’n llawer agosach am y medalau eraill gyda phedair merch yn brwydro’n agos gydag un hyd y pwll i fynd.
Bu ond y dim i Carlin gipio’r fedal arian gyda’i chyflymder dros y metrau olaf, ond roedd yn hapus iawn gyda’r efydd a’i hamser o 4:08.22.
“Ro’n i’n teimlo’n ofnadwy bore ma” datgelodd mewn cyfweliad teledu â’r BBC “ond yn hapus iawn i ennill y fedal efydd.”
Loughran yn agos i fedal
Funudau cyn ras Jaxx Carlin, roedd y Cymro Marco Loughran wedi dod o fewn trwch blewyn i gipio medal efydd yn 100m i ddynion yn nofio ar eu cefn.
Fe ddaeth yn bedwerydd gyda’r Sais Liam Tancock yn cipio’r fedal aur.