Cafodd mam o’r Eidal wybod ar raglen deledu fyw bod ei merch wedi cael ei llofruddio.

Roedd y fam yn ymddangos ar raglen ar sianel RAI er mwyn apelio am wybodaeth am ei merch, Sarah Scazzi, 15, pan ddywedwyd wrthi, o flaen 3.5 miliwn o bobol, bod ei brawd yng nghyfraith wedi cyfaddef ei lladd.

Gwelwodd y fam, Concetta Serrano, ac eistedd yno’n dawel am wyth munud, cyn i’r cyflwynydd Federica Sciarelli ofyn a fyddai’n well ganddi pe baen nhw’n dod â’r rhaglen i ben.

Roedd y sioe yn cael ei ffilmio yng nghartref y dyn sydd wedi cyfaddef i’r llofruddiaeth. Fe aeth y darllediad yn ei flaen am dri munud arall, wrth i ferch y brawd yng nghyfraith grio a honni bod ei thad yn ddieuog.

Dywedodd yr heddlu mewn cynhadledd i’r wasg yn ddiweddarach eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Sarah Scazzi mewn pwll o ddŵr a bod y brawd yng nghyfraith wedi cyfaddef iddo ei thagu hi ar ôl iddi wrthod cysgu gydag ef.