Mae ymgyrchydd o blaid hawliau dynol yn China, Liu Xiaobo, wedi ennill gwobr heddwch Nobel eleni.
Dywedodd y pwyllgor yn Norwy sy’n penderfynu pwy sy’n cael y wobr ei fod o’n ei haeddu “am ei frwydr hir a di-drais dros hawliau dynol yn China”.
Ychwanegodd y pwyllgor eu bod nhw’n credu fod yna gysylltiad agos rhwng hawliau dynol a heddwch.
Mae’r wobr yn siŵr o gythruddo llywodraeth China, oedd wedi rhybuddio’r pwyllgor Nobel yn erbyn gwobrwyo Liu Xiaobo.
Mae China yn wlad sydd wedi ei thrawsnewid yn economaidd dros y tair degawd ddiwethaf ond yn wleidyddol dyw’r wlad heb newid ryw lawer.
Bydd ymgyrchwyr yn China yn gobeithio y bydd gwobrwyo Liu Xiaobo yn esgor ar drafodaeth ynglŷn â diwygiad democrataidd yn y wlad.