Mae David Cameron wedi cadarnhau y bydd milwyr Prydain yn gadael Afghanistan erbyn 2015 ond mae hefyd wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn cael arfau niwclear newydd yn lle Trident.
Ei addewid mawr arall yn ei araith gyntaf i’w gynhadledd yn swydd Prif Weinidog oedd y byddai holl bobol y wlad yn cael eu gwobrwyo yn y pen draw am galedi’r cyfnod nesa’.
Y toriadau a’r cynlluniau amddiffyn a gafodd y sylw mwya’ ganddo ar ddiwrnod ola cynhadledd y Ceidwadwyr ym Mirmingham.
Fe ddywedodd na fyddai milwyr Prydain yn aros “diwrnod yn hirach nag y mae’n rhaid ” yn Afghanistan cyn ychwanegu bod y Llywodraeth wedi penderfynu cadw’u “polisi yswiriant”, yr arf ataliol Trident, ar adeg pan oedd “mwy a mwy o wledydd yn ceisio cael gafael ar arfau niwclear”.
‘Tynnu at ein gilydd’
Doedd yna ddim cyhoeddiadau mawr newydd yn yr araith, ond fe aeth David Cameron yn ôl at un o themâu mawr yr ymgyrch etholiadol, sef y “Gymdeithas Fawr”.
Galwodd ar bobol Prydain i “dynnu at ei gilydd” fel cenedl gan ddweud: “Mae eich gwlad eich angen chi.”
Dywedodd y dylai dinasyddion ymuno â phrosiectau er mwyn gwella eu cymunedau, dechrau busnesau a chael gwared ar wastraff.
‘Anodd’
Gan droi at bwnc mawr y gynhadledd, fe gyfaddefodd y byddai toriadau ariannol y Llywodraeth yn “anodd” ond dywedodd mai dyna’r unig ffordd o sicrhau twf yr economi a rhoi arian ym mhocedi pobol y wlad.
Roedd yn cydnabod bod pobol yn “bryderus” ynglŷn ag effaith toriadau fel y budd-dal plant a gyhoeddwyd yr wythnos hon, ond mynnodd nad oedd yna “yr un ffordd arall”.
“Fe fydd gwario llai yn anodd,” meddai. “Mae’n rhaid torri rhaglenni. Bydd rhaid colli swyddi. Mae yna bethau y mae’r Llywodraeth yn ei wneud heddiw y bydd rhaid iddi roi’r gorau i’w wneud.
“Dydw i ddim yn dweud y bydd hyn yn hawdd, fel yr’ yn ni wedi gweld gyda budd-dal plant yr wythnos yma.
Ond mae’n deg bod y bobol sy’n gallu cymryd mwy o’r pwysau yn gwneud hynny.
“Mae rhai pobol yn cytuno bod angen torri gwariant. Ond oes rhaid torri cymaint nawr? Onid oes yna ffordd wahanol? Byddwn i wrth fy modd pe bai yna ffordd arall haws. Ond does yna ddim ffordd arall gyfrifol.”
Beirniadu’r Blaid Lafur
Dywedodd bod cynllun y Blaid Lafur i dorri’r diffyg ariannol yn arafach yn “hunanol ac anghyfrifol,” gan ddweud y byddai wedi arwain at fwy o doriadau yn y tymor hir.
Dywedodd na ddylai’r “gwleidyddion Llafur a adawodd ddyledion a thoriadau ar eu hôl, gael mynd yn agos at ein heconomi fyth eto”.
“Rydw i’n addo, os ydan ni’n dod at ein gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r dyledion yma heddiw, yna mewn ychydig o flynyddoedd fe fydd pawb yn y wlad yn cael eu gwobrwyo.”
Llun: David Cameron (Gwifren PA)