Mae un o brif enwadau crefyddol Cymru wedi galw ar i’r Llywodraeth roi’r gorau i ddwy ganolfan filwrol newydd yng Nghymru ac i arfau niwclear newydd.

Fe benderfynodd Cyngor Undeb yr Annibynwyr yn unfrydol i wrthwynebu gwario £14 biliwn ar Academi Filwrol yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg a £900 miliwn ar faes awyrennau di-beilot yn Aberporth.

Maen nhw hefyd wedi galw ar y Llywodraeth i beidio â chael arfau niwclear newydd yn lle Trident, gan arbed rhwng £20 biliwn a £75 biliwn.

Fe fydd y Cyngor yn gofyn i aelodau’r enwad lobïo gwleidyddion er mwyn eu cael nhwthau i gefnogi’r alwad.

Gwrthwynebu

“Yn y bôn, ar sail foesol yr ydym ni fel Adran yn gwrthwynebu’r datblygiadau hyn,” meddai Elenid Jones, Cadeirydd yr Adran Dinasyddiaeth Gristnogol.

“Hyd yn oed pe ba’r cyllid ar gael i ariannu’r gwahanol brosiectau, byddem ni fel aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn lleisio ein gwrthwynebiad i arfau mor echrydus o ddinistriol i’r ddynoliaeth gyfan, ond yn y dyddiau anodd presennol mae’r gwastraff yn amlwg i bawb.”

Bydd y Cyngor yn pwyso ar aelodau eglwysi Undeb yr Annibynwyr ledled Cymru i ysgrifennu at eu haelodau seneddol a’u haelodau Cynulliad i bwyso arnyn nhw i beidio â buddsoddi rhagor yn y cynlluniau hyn.

Llun: Taflegryn Trident