Wrth i’r trefnwyr obeithio ail-ddechrau chwarae yn y Cwpan Ryder am hanner awr wedi un heddiw, un o drefnwyr y gêm yn yr Unol Daleithiau sy’n cael y bai am y trafferthion.

Fe gafwyd glaw trwm iawn yn ardal Casnewydd eto’r bore yma, i ychwanegu at y colli amser a gafwyd ddydd Gwener.

Hyd yn oed os bydd chwarae am weddill heddiw, fe fydd rhaid gorffen y gemau yn y Celtic Manor yfory ac un pryder yw mai lluniau o law fydd yn aros ym meddyliau cannoedd o filiynau o bobol wrth feddwl am Gymru.

Jacklin yn beirniadu

Yn ôl rhai o golffwyr enwoca’ gwledydd Prydain, Tim Finchem o’r gylchdaith Americanaidd sydd wedi gorfodi cynnal y Cwpan mor hwyr yn y flwyddyn.

Dyma’r tro cynta’ ers 1965 i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yn yr hydref a’r tro cynta’ oll ers iddi ddod yn ddigwyddiad anferth rhyngwladol.

Yn ôl rhai fel y cyn-bencampwr, Tony Jacklin, roedd hi’n amlwg y byddai problemau wrth gynnal y Cwpan mor hwyr yn y flwyddyn.

Roedd wedi rhybuddio y byddai tywydd braf yn arwain at niwl yn y bore a thywydd gwael yn golygu gorfod gohirio.

Bernard yn gweld bai

Roedd un o’r cyn-gapteiniaid, Bernard Gallagher, hefyd yn dweud mai trefnwyr y gylchdaith yn America oedd wedi creu’r broblem trwy wrthod gwneud lle i’r bencampwriaeth ynghynt.

Fe allai’r un problemau godi ymhen dwy flynedd, gyda’r tebygrwydd y bydd yn digwydd yn niwedd mis Medi, ac yn 2014 pan fydd yn yr Alban.

Mae’n bendant bellach y bydd rhaid i’r chwarae barhau tan yfory yn y Celtic Manor – y tro cynta’ i’r trefnwyr orfod ychwanegu diwrnod ers i’r Cwpan ddechrau 83 o flynyddoedd yn ôl.

Llun: Y Celtic Manor yn gynharach heddiw (Gwifren PA)