Mae Osama Bin Laden wedi rhyddhau neges fideo yn galw am greu elusen newydd fyddai’n gallu rhoi cymorth i ddioddefwyr Mwslimaidd ynghanol trychinebau neu ryfeloedd.

Daw ei neges ar ôl i Al Qaida feirniadu llywodraeth Pacistan am fethu a diogelu pobol y wlad ar ôl i lifogydd anferth yno ladd cannoedd a gadael wyth miliwn yn ddigartref.

Yn y tâp mae Osama Bin Laden hefyd yn beirniadu llywodraethau gwledydd Mwslimaidd am wario mwy ar fyddinoedd nag er eu dinasyddion.

Roedd y neges yn rhan o fideo 11 munud gan Al Qaida. Mae’n cynnwys llun o Bin Laden a delweddau o bobol wedi eu dal ynghanol trychinebau yn y cefndir.

Cafodd copi o’r neges ei ryddhau gan Grŵp Cudd-wybodaeth SITE yr Unol Daleithiau. Does neb wedi cadarnhau bod y neges yn ddilys eto.