Mae gêm fwrdd newydd i blant sydd wedi’i seilio ar gymeriadau Gwlad y Rwla ar werth yn y siopau.
Mae ‘Lot o Sŵn’ yn rhan o gyfres Darllen Mewn Dim crëwr gwreiddiol y gyfres lyfrau, Angharad Tomos.
Mae wedi’i haddasu o’r gêm fwrdd Lot-o-Rwdlan, ac yn cynnwys CD o 36 o seiniau gwahanol, sy’n cyfateb i bedwar categori a phedwar bwrdd chwarae gwahanol.
Y cyntaf i orchuddio’i fwrdd chwarae â naw o hetiau pigfain gwrachod a dewiniaid bach Gwlad y Rwla sy’n ennill y gêm.
‘Eisiau gêm arall’
“Yn dilyn poblogrwydd y gêm Lot-o-Rwdlan a gyhoeddwyd yn 2006, ac sydd bellach allan o brint, roedd rhieni ac athrawon wedi gofyn am gêm fwrdd arall,” meddai Meinir Wyn Edwards, sy’n olygydd i’r Lolfa.
“Felly, dyma fynd â’r gêm honno gam ymhellach trwy gynhyrchu cryno-ddisg o seiniau cyfarwydd, fel peiriant golchi dillad, rhochian mochyn, injan dân a mewian Mursen y gath.
“Ond yr un yw’r egwyddor, sef y cyntaf i lenwi’r naw sgwâr bach ar ei fwrdd chwarae. Yn ogystal â bod yn fodd i wella pob math o sgiliau addysgol a chymdeithasol, mae’r plant yn siŵr o gael llond berfa Strempan o hwyl a chreu lot o sŵn wrth chwarae’r gêm.”