Mae Brian Flynn wedi dangos ei awydd i faddau pechodau rhai o chwaraewyr Cymru trwy enwi Danny Collins yn ei garfan gyntaf fel rheolwr dros dro Cymru.

Amddiffynnwr Stoke, Danny Collins yw’r enw cyntaf i’w alw nôl mewn i’r garfan. Tydi Collins ddim wedi chwarae i’w wlad ers Awst 2007 pan gafodd ffrae â’r cyn rheolwr, John Toshack am fethu gêm heb esgus da.

Mae gan Collins 7 cap dros ei wlad, ac yn eironig fe enillodd y diwethaf oddi cartref yn erbyn Bwlgaria nôl yn 2007. Mae’n debygol y bydd yn dychwelyd yn erbyn yr un wlad nos Wener nesaf.

Mae enwi Collins yn y garfan, ynghyd â’r ffaith bod Danny Gabbidon yn ôl yn chwarae’n rheolaidd i’w glwb West Ham, yn rhoi llu o opsiynau i Flynn yn yr amddiffyn ar gyfer y ddwy gêm nesaf.

Rhoi ffydd mewn ieuenctid

Mae golwg ifanc iawn i weddill carfan Cymru, sydd efallai ddim yn syndod o ystyried mai Flynn sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu timau ieuenctid Cymru yn ystod cyfnod Toshack fel rheolwr.

Mae dau chwaraewr sydd heb gapiau wedi eu cynnwys yn y garfan, sef y gôl geidwaid Jonathan Bond o Watford a David Cornell o Abertawe.

Mae’r amddiffynnwr o glwb Dinas Bryste, Christian Ribeiro, y chwaraewr canol cae o Abertawe, Joe Allen a’r ymosodwr o Reading Hal Robson –Kanu hefyd yn camu fyny o’r tîm dan 21.

Capten yn eisiau

Fe fydd rheolwr newydd Cymru heb ei gapten, Craig Bellamy, sydd ond wedi chwarae un gêm i Gaerdydd ers gêm ddiwethaf Cymru ym Montenegro fis diwethaf. Mae’r ymosodwr sydd ar fenthyg o Manchester City yn dioddef o anaf i’w ben-glin sy’n golygu ei fod prin wedi chwarae i’w glwb yn ddiweddar.

Ymysg yr enwau eraill sy’n eisiau o’r garfan oherwydd anafiadau mae Sam Vokes a Lewin Nyatanga tra bod Aaron Ramsey a Jack Collison yn dioddef o anafiadau hirdymor.

Bydd Cymru’n herio Bwlgaria yng Nghaerdydd ar nos Wener 8 Hydref ac yna’r Swistir yn Basel ar nos Fawrth 12 Hydref. 

Carfan Cymru: Jonathan Bond (Watford), David Cornell (Abertawe), Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (West Brom), Danny Collins (Stoke), James Collins (Aston Villa), Neal Eardley (Blackpool), Danny Gabbidon (West Ham), Chris Gunter (Nottingham Forest), Christian Ribeiro (Dinas Bryste), San Ricketts (Bolton Wonderers), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), David Edwards (Wolves), Andy King (Leicester), Joe Ledley (Celtic), Brian Stock (Doncaster Rovers), Simon Church (Reading), Robert Earnshaw (Nottingham Forest), Ched Evans (Sheffield United), Steve Morison (Milwall), Hal Robson-Kanu (Reading)