Mae swyddogion Gemau’r Gymanwlad yn Delhi wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog y bydd y paratoadau wedi eu cwblhau cyn y seremoni agoriadol dydd Sul.

Roedd amheuon a fyddai’r gemau’n cael eu cynnal o gwbl ar ôl i sawl tîm, gan gynnwys Cymru godi cwestiynau ynglŷn â safon y cyfleusterau a diogelwch yr athletwyr.

Mae’r timau wedi teithio i India yn dilyn archwiliadau o’r cyfleusterau, ond mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer y gemau.

Roedd nifer o’r timau fod symud mewn i bentref y cystadleuwyr wythnos ddiwethaf ond mae sawl un wedi gorfod oedi eu cynlluniau ac aros mewn gwestai tra bod yr ystafelloedd yn cael eu cwblhau.

Y newyddion diweddaraf i ddod allan o Delhi, ac sydd wedi achosi mwyaf o fraw, yw i nadroedd gael eu gweld – un yn ystafell aelod o dîm De Affrica a Cobra yn y stadiwm tenis.

Mae Prif Weinidog Delhi, Shelia Dikshit a gymerodd rheolaeth o’r gwaith adnewyddu wythnos diwethaf yn cyfaddef bod amser yn mynd yn brin.

“R’y ni wedi etifeddu sefyllfa anodd, ond mae’n gwella bob awr,” meddai Sheila Dikshit.
“Does dim amheuaeth ein bod amser yn lleihau, ond fe fyddwn ni’n perfformio”