Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi prynu copi gwreiddiol o un o gerddi mwyaf adnabyddus W H Davies, ‘Leisure’.
Mae’r gerdd yn mynd i fod ar gael ar dudalen arbennig ar system gyfrifiadurol yn y Llyfrgell ynghyd ag enghreifftiau eraill o weithiau’r bardd o Gasnewydd i nodi 70 mlynedd ers ei farw.
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys tua 30 o gerddi eraill, sy’n cynnwys rhai sydd heb gael eu cyhoeddi yn y gorffennol. Mae lluniau papur newydd o honno yn ogystal, a 58 o lythyrau.
Mae’r gerdd ‘Leisure’ yn cynnwys un o’r cwpledi sy’n cael eu hystyried i fod ymhlith y rhai enwocaf yn yr iaith Saesneg:
“What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare”
‘Meddyliau a chalonnau’
“Mae’r cwpled o gerdd ‘Leisure’ gan W H Davies a’i lyfr, The Autobiography of a Super-Tramp, wedi sicrhau fod y bardd o Gasnewydd yn parhau i fyw ym meddyliau a chalonnau pobl 70 mlynedd wedi ei farwolaeth,” meddai Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Andrew Green.
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn i nodi ei ben-blwydd a rhoi ei gasgliadau ar ein gwefan,” meddai.
Byw fel tramp
Mae W H Davies – William Henry Davies – hefyd yn enwog am ei lyfr, ‘The Autobiography of a Super-Tramp.’
Mae’r llyfr yn disgrifio’r cyfnod y gwnaeth fyw fel trempyn yn yr Unol Daleithiau, ar ôl cyrraedd Efrog Newydd yn 22 oed, heb bron ddim arian.
Roedd wedi teithio miloedd o filltiroedd ar draws y wlad yn cardota, gan weithio yn achlysurol a theithio’n anghyfreithlon ar y trenau cludo nwyddau.
Yn ystod un o’r teithiau yma i gloddfeydd aur yn y Klondike, roedd wedi cwympo o dan drên gan dorri ei droed dde – yn sgil hyn, collodd ei goes o dan y ben-glin.
Lluniau: Gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru