Mae’r Scarlets wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor ar ôl curo Connacht 35-33 mewn gêm agos iawn ym Mharc y Scarlets.
Fe sgoriodd yr asgellwr Albanaidd, Sean Lamont gyda symudiad olaf y gêm i ennill y gêm a sicrhau pwynt bonws i dîm Nigel Davies.
Fe aeth Connacht 0-6 ar y blaen ar ôl dwy gic gosb gan Ian Keatley. Ond roedd y Scarlets ar y blaen ar ôl i faswr Cymru, Stephen Jones lwyddo gyda dwy gic gosb naill ochr i gais gan Jonathan Davies.
Ond fe gafodd y sgôr ei unioni’n syth gyda Fionn Carr yn sgorio ei gais cyntaf o’r gêm.
Roedd Connacht yn rheoli’r chwarae yn dilyn eu cais cyntaf, ond ychydig cyn hanner amser fe gafodd eu capten, Frank Murphy y garden felen am dacl uchel ar Andy Fenby.
Fe fanteisiodd y tîm cartref ar eu dyn ychwanegol gyda Regan King yn sgorio o dan y pyst yn dilyn pas gan Jonathan Davies i sicrhau mantais 20-13 ar hanner amser.
Ail hanner
Bu rhaid i’r ymwelwyr wrthsefyll pwysau gan y Scarlets wedi’r egwyl, ond y Gwyddelod sgoriodd pwyntiau cyntaf yr hanner gyda Carr yn rhedeg 60 medr am ei ail gais o’r gêm.
Cyfnewidiodd y ddau dîm ciciau cosb cyn i Carr hawlio ei drydedd cais i roi Connacht 30-23 ar y blaen.
Ond pan gafodd prop Connacht, Ronan Loughney y garden felen, fe fanteisiodd y Scarlets eto ar eu dyn ychwanegol gyda Jonathan Davies yn unioni’r sgôr gyda’i ail gais o’r gêm.
Er gwaethaf chwarae gydag un dyn yn llai, y Gwyddelod aeth ar y blaen unwaith eto gyda Keatley yn llwyddo gyda chic gosb arall.
Ond wedi saith munud o amser ychwanegol fe ledaenodd y Scarlets y bêl cyn i Lamont groesi’r llinell gais i sicrhau buddugoliaeth ddramatig.