Mae Abertawe yn dal i chwilio am eu pwyntiau cyntaf o’r tymor oddi cartref ar ôl colli 2-1 i Leeds Utd yn Elland Road.

Dyma’r drydedd gêm allan o bump i’r Elyrch colli’r tymor hwn gyda’i ddwy fuddugoliaeth hyd yn hyn yn dod yn Stadiwm Liberty.

Roedd tîm Brendan Rodgers wedi mynd ar y blaen wedi 13 munud gyda Stephen Dobbie yn manteisio ar gamgymeriad Richard Naylor.

Ond deg munud mewn i’r ail hanner roedd y tîm cartref yn gyfartal gyda Bradley Johnson yn canfod cefn y rhwyd yn dilyn arbediad gan Dorus de Vries i atal peniad Naylor.

Wyth munud yn ddiweddarach fe aeth Leeds ar y blaen gyda’r Archentwr, Luciano Becchio yn sgorio ei drydedd gôl o’r tymor i sicrhau’r fuddugoliaeth i dîm Simon Grayson.

Mae’r golled yn gadael Abertawe yn y bedwaredd safle ar ddeg ac maen nhw saith pwynt oddi ar QPR a Chaerdydd ar frig y tabl.