Mae Cyn Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies wedi dweud ei fod o’n falch o gael bod yn aelod o Blaid Cymru wrth iddo annerch cynhadledd y blaid heddiw.

Fe fydd y cyn AC ac AS Llafur yn sefyll dros Blaid Cymru yn ei hen sedd, Caerffili yn Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Cafodd ei gyflwyno ar y llwyfan fel “pensaer datganoli” a’i gyfarch yn frwdfrydig gan dorf oedd ar ei thraed.

Dywedodd ei fod o wedi mynd i gynhadledd Plaid Cymru ryw 20 mlynedd yn ôl, ond “dyma’r gynhadledd gyntaf ydw i wedi cael cerdyn aelodaeth yn fy mhoced, ac rydw i’n falch ohono”.

Ychwanegodd bod y Cymoedd, sydd yn draddodiadol yn ochri gyda’r Blaid Lafur, yn dir ffrwythlon i Blaid Cymru.

“Fe fydden ni’n ennill a chadw tir tan fod pleidleisio Plaid Cymru yng Nghaerffili mor naturiol ag anadlu,” meddai.

Ymosododd ar y ei hen blaid gan ddweud eu bod nhw’n “blaid o Lundain sydd ddim yn cael mynd gyda’r lli yng Nghymru”.

“Ar ôl yr holl flynyddoedd mewn llywodraeth yn Llundain a Chaerdydd, pam eu bod nhw wedi ein gadael ni mor agored i niwed gan y Ceidwadwyr?

“Pam ein bod ni ar waelod bod tabl economaidd a chymdeithasol?”

Ymddiswyddodd Ron Davies o gabinet Tony Blair ar ôl ei “eiliad o wallgofrwydd” ar Gomin Clapham.

Ymosod ar y glymblaid

Yn ei haraith hi i’r gynhadledd dywedodd AC Llanelli, Helen Mary Jones, bod yn rhaid i’r Cynulliad wneud mwy i herio’r llywodraeth yn San Steffan.

Ymosododd Helen Mary Jones ar y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gan ddweud nad oedd ganddyn nhw “fandad democrataidd i lywodraethu ar Gymru”.

“Rhaid sicrhau canlyniad llwyddiannus yn y refferendwm – pleidlais ‘Ie’ er mwyn cryfhau llywodraeth nesaf Cymru yn erbyn y llywodraeth glymblaid yn Llundain.

“Fis Mai nesaf mae angen i ni sicrhau bod tîm dewr o ddynion a merched gyda ni yn y Cynulliad, tîm na fydd yn ofn sefyll yn gadarn dan faner ein gwlad ac amddiffyn ein cymunedau yn wyneb yr her sydd o’n blaenau ni.”