Y Drenewydd 1 – 1 Y Bala

Fe gafwyd diweddglo dramatig i’r gêm gyfartal rhwng Y Drenewydd a’r Bala ar Barc Latham wrth i’r ddau dîm sgorio yn wyth munud olaf y gêm.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn dilyn gôl gan yr ymosodwr ifanc, Josh MacAuley wedi 82 munud.

Roedd tîm Colin Caton yn chwilio am eu pwyntiau cyntaf o’r tymor yn dilyn dechrau siomedig i’w hymgyrch.

Roedden Y Bala ar fin sicrhau’r fuddugoliaeth cyn i Craig Whitfield, sydd ar fenthyg oddi wrth y Seintiau Newydd sgorio yn yr amser ychwanegol er mwyn sicrhau pwynt i’r tîm cartref.

Mae’r gêm gyfartal yn golygu bod Y Bala yn parhau ar waelod y tabl Uwch Gynghrair Cymru ar ôl chwarae pum gêm.