Mae dechrau siomedig Caerfyrddin i’r tymor yn parhau ar ôl i dîm Tommy Morgan ddioddef cweir yn erbyn y Seintiau Newydd yn Park Hall.

Roedd y gêm mwy neu lai drosodd ar ôl llai na hanner awr o’r chwarae wrth i’r tîm cartref sgorio pedair gôl yn y 26 munud agoriadol.

Fe sgoriodd Matty Williams y gôl gyntaf wedi 12 munud, cyn i Alex Darlington sgorio ei drydydd gol o’r tymor i ddyblu’r fantais i dîm Mike Davies.

Fe ddaeth dwy gôl mewn dwy funud i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Seintiau Newydd cyn yr egwyl gyda chapten Caerfyrddin yn taro’r bêl i gefn rhwyd ei hun wedi 24 munud cyn i Scott Ruscoe sgorio’r pedwerydd wedi 26 munud.

Fe gychwynnodd yr ail hanner yn debyg i’r cyntaf gyda’r tîm cartref yn pwyso am gôl arall, ac fe ddaeth wedi saith munud gyda Ruscoe yn sgorio ei ail o’r gêm.

Pum munud yn ddiweddarach fe gynyddodd y Seintiau Newydd eu mantais ymhellach wrth i Darlington sgorio eto.

Wedi ugain munud o’r chwarae fe ddaeth y seithfed gôl gyda Matt Berkeley yn canfod cefn y rhwyd i sicrhau buddugoliaeth gadarnhaol.