Mae’n ymddangos bod plaid genedlaethol yr Alban, yr SNP, am roi’r gorau tros dro i refferendwm ar annibyniaeth.
Yn lle hynny, fe fyddan nhw’n cyhoeddi mesur annibyniaeth ac yn ceisio’i wneud yn brif bwnc etholiadau’r Alban y flwyddyn nesa’.
Yn ôl papur y Scotsman, mae llefarydd ar ran y blaid wedi cadarnhau bod y newid meddwl yn cael ei ystyried er bod y blaid wedi gweithio at refferendwm ers mwy na thair blynedd.
Mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb trwy wawdio’r SNP a’u cyhuddo o wastraffu miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus.
Problem yr SNP
Y broblem sy’n wynebu Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, yw’r peryg y bydd y mesur refferendwm yn cael ei wrthod yn y Senedd – fe fyddai’r pleidiau eraill, sy’n gryfach na’r SNP ar ei phen ei hun, yn ennill mewn pleidlais yno.
Mae’r papur yn dyfynnu llefarydd ar ran y blaid sy’n dweud eu bod yn ystyried cyhoeddi’r mesur ac apelio tros ben Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol gan ofyn am gefnogaeth y bobol yn yr etholiad.
Er hynny, ar hyn o bryd, mae polau piniwn yn yr Alban yn gosod Llafur ddeg pwynt ar y blaen i’r SNP.
Llun: Senedd yr Alban