Fe fydd siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cael eu hannog i “ddathlu’r iaith ar-lein”, pan fydd menter newydd yn cael ei lawnsio fory.
Nod y cynllun pethaubychain.com yw dathlu’r iaith ar y we, ac annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Maen nhw’n gofyn i bobol wneud addewid i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg – boed hynny ar ffurf fideo, blog, podlediad neu e-gerdd.
“Fel Cymry Cymraeg, rydyn ni’n or-ddibynnol ar gyfryngau sydd wedi eu bwydo i ni: mae’r we yn gyfle i ni ffurfio ein sianeli, ein gorsafoedd a’n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni,” meddai Rhodri ap Dyfrig o Aberystwyth, un o’r rhai sy’n gyfrifol am y cynllun.
Tyfu
“Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu, yna rhaid i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol hefyd,” meddai Cadeirydd yr Iaith Gymraeg, Menna Machreth.
“Drwy wneud un o’r pethau bychain, fe all pobol chwarae rhan allweddol yn llusgo’r Gymraeg i’r byd digidol.
“Mae’r fenter hon yn wirioneddol fendigedig. Mae’n hynod o bwysig bod y Gymraeg yn ffynnu ar y we, ac ym mhob rhan o’n bywydau bob dydd.
“Trwy wneud y pethau bychain, allwn ni wneud newidiadau mawrion dros ein cymdeithas a’n hiaith.”
Diffyg hyder
Yn ôl Rhodri ap Dyfrig, “diffyg hyder” yw un o’r pethau sy’n gyfrifol am ddiffyg gweithgarwch digidol yn yr iaith Gymraeg.
“Falle bod pobol ddim yn gweld yr iaith Gymraeg yn iaith gwe yn yr un ffordd, ac maen nhw’n gyfforddus â’r Gymraeg ar y radio a’r teledu.
“Ddim jest ar gyfer geeks rhyngrwyd y mae’r cynllun yma – mae’n fyd rhy fach. Mae’r we yn fyd i bawb, ac r’yn ni eisiau ei agor i fyny…”
Cliciwch yma am ragor o fanylion am y diwrnod.