Mae’r Uchel Lys wedi gwrthod achos y BBC dros atal llyfr rhag mynd i’r wasg.
Roedd y BBC wedi gofyn am atal cyhoeddi hunangofiant ‘Stig’ – y cymeriad sy’n profi ceir ar raglen Top Gear. Mae’r hunangofiant, sy’n cael ei gyhoeddi gan Harpercollins, yn datgelu pwy’n union sydd yn gwisgo siwt a helmed wen y cymeriad sydd wedi aros yn anhysbys tan nawr.
Mae’r BBC yn honni bod yr unigolyn wedi cael ei rwymo gan gymal cyfrinachedd yn ei gytundeb teledu, ac y byddai datgelu ei enw yn siomi gwylwyr sy’n mwynhau’r rhaglen boblogaidd ar BBC 2.
Ond ar ôl mwy na diwrnod o trafodaethau cyfreithiol preifat gyda Mr Justice Morgan yn Llundain, daeth cyhoeddiad gan gyfreithwyr HarperCollins yn dweud fod yr achos wedi mynd o’u plaid nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad oedd hyn yn eu hatal rhag mynd â’r mater ymhellach.
Stig
Mae’r ‘Stig’ yn enwog am ei oferôls rasio a’i helmed, ond mae ei enw yn gyfrinach bwysig iawn ac yn ganolog i’r rhaglen Top Gear.
Dim ond grŵp clos iawn o bobl sy’n gwbod pwy yw’r ‘Stig’ – a’r rheiny’n cynnwys cyflwynwyr y rhaglen Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May.
Mae sawl gyrrwr rasio wedi cael eu cysylltu â’r rôl, gan gynnwys cyn bencampwr Formula One Damon Hill a Michael Schumacher . Ond, yr enw diweddaraf yw’r gyrrwr rasio Ben Collins, 33, sydd wedi bod yn yrrwr styntiau ar ffilimiau James Bond.
Roedd Mr Collins yn y llys heddiw ar gyfer rhan o’r gwrandawiad.
Y ‘Stig’ presennol yw’r ail ar y rhaglen. Fe gafodd y cyntaf, Perry McCarthy, ei newid yn 2003 ar ôl i’w enw gael ei ddatgelu.