Mae un o bob tri ysmygwr yn dweud celwydd er mwyn cael tŷ i’w rhentu, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl casgliadau’r arolwg a wnaed gan wefan Easyroommate.co.uk, dim ond 7% o berchnogion tai sy’n caniatau i’w tenantiaid ysmygu ynddyn nhw.

“Mae pobol yn llawer llai goddefgar o ysmygwyr ers ei wahardd mewn mannau cyhoeddus,” meddai Jonathan Moore, cyfarwyddwr gwefan Easyroommate.co.uk, “ac mae’r dewis o lety sydd ar gael i ysmygwyr wedi dioddef oherwydd yr agwedd hynny.”

Dywedodd Jonathan Moore fod casgliadau’r arolwg yn dangos fod “hafan olaf yr ysmygwr – y cartref – yn cael ei wasgu.”

Torri trwy fwg y ffigyrau

Yn ôl yr arolwg:

– Byddai 38% o berchnogion tai yn gofyn i denantiaid sy’n ysmygu symud allan;

– Mae 67% o ysmygwyr yn byw mewn llety sy’n gwahardd ysmygu;

– Mae 34% wedi dweud celwydd am y ffaith eu bod yn ysmygu er mwyn cael rhannu fflat;

– Mae bron i un o bob tri ysmygwr wedi ystyried rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn dod o hyd i rywle i fyw;

– Dim ond 19% o bobol fyddai’n barod i rannu tŷ gydag ysmygwr;

– Byddai 37% o bobol yn fodlon byw gydag ysmygwr ar yr amod ei fod yn ysmygu tu allan yn unig.

Ysmygwyr iau

Mae’r arolwg yn dangos mai pobol iau sydd fwya’ tebygol i ysmygu – a’r un rhai sydd fwyaf tebygol o fod yn chwilio am rywle i fyw.

Mae tua 27% o bobol rhwng 25-34 oed yn ysmygu ac, ar gyfartaledd, 27 oed yw oed y rhai sy’n chwilio am rywle i fyw.