Mae corff gwraig wedi cael ei ddarganfod mewn simdde tŷ yn Bakersfield, California, dridiau ar ôl iddi geisio llithro i lawr i dŷ ei chariad.
Mae’n debyg bod Jacquelyn Kotarac, 49, oedd yn feddyg, wedi trio torri mewn i’r tŷ gan ddefnyddio rhaw i ddechrau.
Ond, yn ôl adroddiadau gan heddlu’r ddinas, roedd ei chariad “achlysurol”, William Moodie, 58, wedi gadael y tŷ heb iddi ei weld, er mwyn osgoi gwrthdaro.
Credir wedyn bod Jacquelyn Kotarac wedi dringo ysgol ar ben y to, wedi tynnu cap y simdde o’i le, a llithro i lawr.
Tridiau
Ni ddarganfuwyd ei chorff nes i wraig oedd yn edrych ar ôl y tŷ – tra bod William Moodie i ffwrdd – sylwi ar oglau a hylif oedd yn dod o’r lle tân, dridiau yn ddiweddarach.
Dyw’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Mae William Moodie wedi dweud fod Jacquelyn Kotarac wedi gwneud “camgymeriad anhygoel”.