Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ladrad mewn siop bapur newydd ym Merthyr Tudful.

Aeth dyn yn gwisgo hwdi gwyn â logo Lonsdale i mewn i’r siop ar Roberts Avenue tua un o’r gloch bnawn Mawrth, gan fygwth y gweithwyr a dwyn arian. Chafodd neb eu hanafu.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn yn ei ugeiniau, oedd wedi eillio, a chanddo wallt du.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad alw’r heddlu ar y rhif 101, neu alw Taclo’r Tacle ar y rhif 0800 555 111.