Mae dau o chwaraewyr ieuenctid gorau Cymru wedi cael eu dewis i gynrychioli eu gwlad ym Mhencampwriaethau’r Byd yn yr Ariannin fis nesa’.
Mae Amy Boulden, 16 oed wedi cael ei dewis i dîm menywod Cymru i gystadlu yn Nhlws Espirito Santo yn Buenos Aires rhwng 20 a 23 Hydref. Ac fe fydd Rhys Pugh, sydd hefyd yn 16 oed, yn chwarae i dîm y dynion yn Nhlws Eisenhower ym mhrifddinas yr Ariannin.
Mae Amy Boulden wedi dangos ei doniau ar lefel uchaf golff menywod. Fe ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Tlws St Rule yn St Andrews.
Mae Rhys Pugh hefyd wedi gwneud ei farc gan ddilyn chwaraewr megis Lee Westwood a Justin Rose i ennill Tlws Peter McEvoy.
Y timau’n gyflawn
Fe fydd Gemma Bradbury o Cottrell Park a Tara Davies o Gaergybi yn cwblhau tîm y menywod o dan arweiniad y capten, Sue Turner.
Oliver Farr a Rhys Enoch fydd yn ymuno gyda Rhys Pugh yn nhîm y dynion, gyda Carl Rowe yn gapten ar gyfer y gystadleuaeth sy’n digwydd rhwng 28 a 31 Hydref.
“Mae’n dîm cryf ac yn gyfle i Rhys Pugh ddatblygu ymhellach ar ôl haf da iawn,” meddai Carl Rowe.
“Rhys Enoch ac Oliver Farr yw’r ddau chwaraewr mwyaf llwyddiannus dros y cwpwl o flynyddoedd diwetha’.”