Mae heddlu ym Maesteg yn apelio am dystion, yn dilyn marwolaeth sydyn merch 24 oed yn Stryd y Bont tua chwarter i chwech fore heddiw.
Dydyn nhw ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac mae’r ymchwiliad yn parhau. Mae teulu’r ferch wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Stryd y Bont yn ystod y munudau cyn 5.45am, i gysylltu gyda nhw.
Mae modd i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Detectif Arolygydd Gareth Morgan yn adran CID Pen-y-bont ar Ogwr ar 01656 679518 neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.