Mae hunangofiant Tony Blair wedi achosi dicter a beirniadaeth heddiw, gyda chyhuddiadau fod y cyn-Brif Weinidog yn ‘hunan-dosturiol’ ac yn “gwawdio” ei lywodraeth ei hun.
Prin oriau wedi i’r llyfr fynd ar werth am 9yb, roedd arweinwyr undebau ac ymgyrchwyr yn ymosod yn chwyrn ar ei gynnwys.
Dywedodd Bob Crow, ysgrifennydd cyffredinol y Rail Maritime and Transport Union, fod y llyfr yn llawn o’r “hunan-dosturi a’r hunan-ddyrchafu disgwyliedig gan arweinydd Llafur a wastraffodd gyfle aur i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd yn ein cymdeithas.”
“Gallai Blair fod wedi achub cam miliynau y dosbarth gweithiol yn erbyn trachwant a llygredd y bancwyr,’ meddai, ‘ond fe benderfynodd gefnogi’r cyfoethog.
“Gwthio’r wlad i ryfel, a greddf am ddilyn yr arian – dyna sut bydd hanes yn ei gofio.”
Hela yn bwnc llosg
Mae un o’r grwpiau sy’n gwrthwynebu hela yn dweud fod Tony Blair, yn ei hunangofiant, yn gwneud tro pedol ynglyn â gwahardd yr arfer.
Mae’r League Against Cruel Sports yn gandryll am iddo gyfaddef ei fod wedi newid ei feddwl ynglyn â hela, ar ôl siarad gyda helwraig tra ar ei wyliau yn Tuscany.
“Y peth trist yw fod cyfaddefiad Blair ei fod wedi ceisio difetha’r gyfraith yn mynd i wneud rhagor o niwed i argraff y cyhoedd o wleidyddion,” meddai llefarydd.