Fe fydd merch yn ei harddegau sydd â pharlys yr ymennydd, yn derbyn iawndal o £4m.

Fe aeth teulu’r ferch ddeunaw oed, na all gael ei henwi am resymau cyfreithiol, â’u hachos i’r Uchel Lys, gan ddweud mai digwyddiadau yn ymwneud â genedigaeth y ferch oedd yn gyfrifol am ei hanabledd.

Dywedodd Magaret Bowron QC, fod y ferch wedi dod trwy’r enedigaeth gydag anableddau difrifol iawn, a’i bod hi bellach yn gaeth i gadair olwyn, yn methu â chyfathrebu ar lafar, yn cael problemau dysgu, a’i bod hi angen gofal llawn amser am weddill ei bywyd.

Dywedodd wedyn ei bod hi’n dymuno nodi “ymdrech eithriadol” y fam, sydd wedi cysegru ei bywyd i fagu ei merch, gyda chefnogaeth ei mab hynaf.


Iawndal

Gyda’r iawndal, fe fydd y fam a’r teulu’n symud i gartre’ newydd sydd wedi ei addasu, ac fe fyddan nhw’n byw bywyd “mor obeithiol â phosib, dan yr amgylchiadau”.

Dywedodd Margaret Bowron fod yr ysbyty lle ganwyd y ferch wedi ymateb i’r achos yn ‘ddi-oed a synhwyrol, a gyda sensitifrwydd”.

Daeth y barnwr i’r casgliad mai’r swm “teg a synhwyrol” fyddai un taliad dechreuol o £1.6 miliwn, a thaliadau blynyddol o £140,000 y flwyddyn, yn codi i £175,000 wrth i’r ferch fynd yn hŷn.