Cyn-flaenasgellwr Seland Newydd, Jerry Collins fydd yn arwain y Gweilch yng ngêm agoriadol y tymor yn erbyn Ulster yn Ravenhill nos Wener.
Mae capten newydd y rhanbarth, Alun-Wyn Jones, yn absennol oherwydd iddo gael mwy o amser i gyrraedd ffitrwydd llawn ar ôl chwarae i Gymru dros yr haf.
Fe fydd yr asgellwr, Richard Fussell yn chwarae ei gêm gyntaf i’r rhanbarth ar ôl ymuno wrth y Dreigiau dros yr haf.
Mae Dan Biggar yn dechrau yn safle’r maswr gydag Andrew Bishop yn y canol.
Mae chwaraewr amryddawn y rhanbarth, Jonathan Thomas yn safle’r wythwr gyda Marty Holah a Collins yn cwblhau’r rheng ôl.
Anafiadau
Dyw’r mewnwr Mike Phillips, ddim wedi cael ei ystyried wrth iddo wella o anaf i’w ben-glin.
Mae cyn gapten y Gweilch, Ryan Jones hefyd yn absennol oherwydd anaf ynghyd a James Hook, Richard Hibbard, Tom Isaacs, Barry Davies a Jonathan Spratt.
Ond mae Lee Byrne a Shane Williams ar y fainc i’r Gweilch ynghyd a’u cyd chwaraewr rhyngwladol, Huw Bennett a Paul James.
Carfan y Gweilch
15 Gareth Owen 14 Nikki Walker 13 Sonny Parker 12 Andrew Bishop 11 Richard Fussell 10 Dan Biggar 9 Jamie Nutbrown.
1Ryan Bevington 2 Mefin Davies 3 Craig Mitchell 4 Ian Gough 5 Ian Evans 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Jonathan Thomas.
Eilyddion- 16 Huw Bennett17 Paul James18 Cai Griffiths19 James Goode20 Ben Lewis21 Rhys Webb22 Lee Byrne23 Shane Williams