Mae amddiffynwr Caerdydd, Anthony Gerrard wedi ymuno gyda Hull City ar gytundeb benthyg am weddill y tymor.

Fe ymunodd Gerrard gyda Chaerdydd dros Haf 2009, ac fe chwaraeodd yn gyson yn yr amddiffyn wrth i’r clwb gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth eleni.

Ond dyw Gerrad ddim wedi chwarae yn gyson i dîm Dave Jones ar ddechrau’r tymor, gyda’r rheolwr yn ffafrio Mark Hudson a Gabor Gyepes.

Rhwng Sheffield a Hull

Roedd yn awyddus i chwarae’n gyson ac roedd wedi cael ei gysylltu gyda Sheffield Wednesday cyn ymuno gyda Hull City ar ddiwrnod olaf y ffenest trosglwyddo.

Mae’r cytundeb gyda Hull City hefyd yn galluogi Seyi Olofinjana, sydd wedi ymuno gyda’r Adar Glas ar fenthyg wrth Hull City, i chwarae yn erbyn ei gyn glwb pan fyddwn yn ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd ar 11 Medi.

Yn wreiddiol, doedd dim hawl gan y chwaraewr canol cae i wynebu Hull City, ond mae’r ddau glwb wedi dod i gytundeb gyda Olofinjana a Gerrard yn debygol o herio eu cyn glybiau dros y tymor nesaf.