Fe fydd tri chwaraewr Pacistan sydd yng nghanol sgandal fetio, yn colli gêm eu gwlad yn erbyn Gwlad yr Haf fory.
Mae’r bowlwyr Mohammad Asif a Mohammad Aamer ynghyd a’r capten Salman Butt i fod i gyfarfod â chadeirydd Bwrdd Criced Pacistan, Ijaz Butt, heddiw yn Llundain, a fyddan nhw ddim ar gael i chwarae.
Roedd yna eisoes alwadau i’w gollwng o’r garfan am weddill y daith, sy’n cynnwys gemau Ugain20 yn erbyn Lloegr yn Stadiwm SWALEC Caerdydd.
Ond mae Bwrdd Criced Pacistan wedi dweud na fydd unrhyw chwaraewr yn cael eu gwahardd tra bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal.
Cefndir
Fe enwodd papur News of the World y tri chwaraewr dan sylw mewn cysylltiad â chynllun i fowlio peli annilys yn fwriadol fel rhan o sgêm betio.
Mae’r tri chwaraewr dan sylw eisoes wedi cael eu holi gan yr heddlu, ac mae’r awdurdodau hefyd wedi cymryd eu ffonau symudol oddi arnyn nhw.
Fe gafodd yr asiant criced Mazhar Majeed ei arestio am ei ran honedig yn y cynllun dros y penwythnos. Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddoe, ac fe fydd yn ymddangos o flaen yr heddlu yn ddiweddarach.
Mae tri pherson arall – dau ddyn a menyw o Lundain wedi cael eu harestio heddiw mewn cysylltiad â’r twyll honedig.