Bydd cynrychiolwyr o undeb Unite a’r cwmni rheoli meysydd awyr, BAA, yn trafod gyda’r corff cymodi Acas heddiw er mwyn ceisio atal streiciau a allai greu anhrefn yn anterth y tymor gwyliau.
Mae’r ddadl yn ymwneud â chyflog mwy na 6,000 o weithwyr diogelwch, peirianwyr a diffoddwyr tân, mewn chwe maes awyr: Heathrow, Stansted, Southampton, Glasgow, Caeredin ac Aberdeen.
Mae Unite eisiau mwy o gynnydd cyflog na’r 1% sydd wedi cael ei gynnig gan BAA gan ddadlau bod gweithwyr wedi gwneud heb gynnydd eleni ac wedi cydsynio i newidiadau i’w cynllun pensiwn.
Er bod BAA wedi cynnig 0.5% yn ychwanegol, roedd hynny’n dibynnu ar newid yn nhrefn salwch y cwmni, meddai’r undeb.
Acas
Bydd y trafodaethau’n cael eu cynnal o dan adain Acas.
Roedd gweithwyr wedi pleidleisio o blaid mynd ar streic os na fyddai’r cynnig yn cael ei wella.
Tua hanner y 6,000 o weithwyr oedd wedi pleidleisio ac roedd 74.1% o’r rheiny o blaid gweithredu diwydiannol.
Llun: Maes awyr Heathrow