Mae protestwyr yn cyhuddo’r llywodraeth o warchod cwmnïau sy’n difrodi’r amgylchedd ar ôl i wersyll ymgyrchu gael ei glirio tros y Sul.
Mae trefnwyr Gwersyll Hinsawdd Cymru’n dweud eu bod wedi sefydlu gwersyll arall ar ôl cael eu symud o safleoedd dau waith glo brig yng Nghwm Nedd.
Ond maen nhw wedi cyhuddo Heddlu De Cymru o ddefnyddio “dulliau cryf” wrth gau’r gwersyll ddydd Sadwrn.
‘Faniau terfysg’
Maen nhw’n honni fod cymaint â 15 o faniau terfysg a nifer o geffylau heddlu yn yr ardal wrth iddyn nhw brotestio yn erbyn gweithfeydd Selar a Nant Helen.
“Mae hyn yn dangos blaenoriaethau’r llywodraeth bresennol, sydd â mwy o ddiddordeb i amddiffyn troseddwyr hinsawdd fel Celtic Energy ac i orthrymu pobol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd, nag i geisio delio â’r argyfwng hinsawdd ei hunan,” meddai un o’r ymgyrchwyr mewn datganiad.
Roedd y gwersyll gwreiddiol ar safle hen gaer Rufeinig ond, yn ôl y protestwyr, roedd y corff adeiladau hanesyddol, Cadw, yn fodlon iddyn nhw fod yno.
Cefndir
Mae’r ddau waith glo brig yn eiddo i gwmni Celtic Energy a gafodd hawl cynllunio ar eu cyfer yn yr 1990au.
Mae gwaith y Selar tua milltir a hanner o bentref Glyn Nedd ac yn cynnwys mwy nag 800 erw o dir – roedd rhan ohono’n arfer bod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Gwaith Nant Helen ger yr Onllwyn yw’r mwya’ sydd gan Celtic Energy. Fe gafodd ei ymestyn ar ddiwedd y 90au a’r bwriad yw parhau i gloddio yno tan 2014.
Llun: Y gwersyll hinsawdd (llun gan y protestwyr)