Mae’r Gymraes, Julia Gillard, ychydig ar y blaen yn yr etholiadau cyffredinol yn Awstralia.

Mae hi a’r Blaid Lafur yn hawlio eu bod nhw wedi dod â’r wlad yn llwyddiannus trwy’r argyfwng economaidd.

Y gyfrinach, meddai, oedd cynlluniau gwario i roi hwb i’r economi – dim ond am un chwarter y methodd Awstralia â chynnal twf.

‘Dod trwyddi’n gryf’

“Fe ddaethon ni drwy’r argyfwng economaidd byd eang yn gryfach nag unrhyw un arall o brif economïau’r byd,” meddai’r gwleidydd, a gafodd ei geni yn Y Barri.

Roedd hi’n annerch rali etholiadol ac roedd ei rhagflaenydd, Kevin Rudd, yn y gynulleidfa – wythnosau ar ôl iddi hi ei ddisodli.

Mae’r wrthblaid yn cyhuddo Llafur o fod yn gaeth i wario ac o ychwanegu gormod at ddyled Awstralia.

Llun: Julia Gillard yn annerch (AP Photo)