Mae grŵp o fudiadau yn Lloegr wedi galw am roi hawl i gymunedau cefn gwlad wneud mwy i gryfhau eu heconomïau a chodi tai i gwrdd ag anghenion lleol.
Maen nhw’n dweud bod ardaloedd gwledig wedi cael eu hanwybyddu ers hanner canrif gyda stadau tai anaddas a chanolfannau siopa’n cael eu datblygu ar gyrion trefi marchnad.
Er ei fod yn sôn am Loegr, fe fydd sawl agwedd o’r adroddiad, Yr Her Wledig, yn taro tant yng Nghymru hefyd.
Mae’r grŵp, sy’n cynnwys Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig, tirfeddianwyr y CLA a Chymdeithas yr Awdurdodau Lleol, yn dweud bod angen rhagor o dai fforddiadwy ar gyfer pobol leol.
Un syniad yw cael yr hawl i ddefnyddio’r arian sy’n dod o werthu tai cyngor er mwyn codi rhagor o dai.
Maen nhw hefyd yn galw am roi’r gorau i’r drefn o rannu arian gwerthiant tai cyngor rhwng awdurdodau lleol.