Mae peryg y bydd toriadau o £135 miliwn i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cynyddu trosedd ar y strydoedd meddai ASau heddiw.
Bydd lleihau cyllid yn golygu llai o swyddogion – fydd yn ei dro yn achosi anawsterau mewn delio â’r pwysau sy’n deillio o doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill, meddai Geraint Davies, Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe.
Dywedodd Philip Davies (Shipley) y byddai’r heddlu yn ei chael hi’n anodd delio â phwysau yn deillio o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn mannau eraill yn y Llywodraeth. Penderfyniadau fel carcharu llai o droseddwyr, lleihau gallu’r heddlu i ddefnyddio DNA a theledu cylch cyfyng.
Ond mae’r Gweinidog Plismona Nick Herbert wedi gwadu’r honiadau gan ddadlau y byddai heddluoedd yn gallu ymdopi gyda gostyngiadau o lai na 1.5% yn eu cyllid.
Mae’r cynigion yn cynnwys torri £115 miliwn mewn cyllid grant i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr fel yn rhan o becyn toriadau gwerth £135 miliwn i gyd.