Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn dweud wrth blant geisio anfon neges destun yn lle siarad ar ffôn symudol.
Er nad oes tystiolaeth yn cysylltu’r ffonau â thrafferthion iechyd meddai Dr Tony Jewell, y cyngor i blant ydi cyfyngu ar eu defnydd rhag ofn i hyn newid yn y dyfodol.
Mae’r awgrym yn rhan o becyn gwybodaeth sydd wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd.
Mae’n awgrymu y dylai plant:
• Gadw sgyrsiau ar ffonau symudol yn fyr.
• Anfon negeseuon testun yn hytrach na ffonio pan fo hynny’n bosib.
• Defnyddio ffôn seinydd neu offer llawrydd wrth ffonio.
Angen rhagor o waith ymchwil
Mae’r taflenni hefyd yn cynnig cyngor ar sut y gall blant ddiogelu eu fonau rhag lladron, yn ogystal â beth i’w wneud os ydyn nhw’n derbyn negeseuon testun neu alwadau nad ydyn nhw eu heisiau.
“Mae diogelu iechyd pobl ifanc yng Nghymru yn flaenoriaeth,” meddai Dr Tony Jewell.
“Ac er bod yr ymchwil ddiweddaraf yn awgrymu nad yw defnyddio ffonau symudol yn achosi problemau iechyd, mae angen gwneud rhagor o waith ymchwil.
“Dydyn ni ddim yn disgwyl i bobl ifanc roi’r gorau i ddefnyddio eu ffonau symudol yn gyfan gwbl, ond mae rhai camau syml y gallan nhw eu cymryd i ddiogelu eu hiechyd ar gyfer y dyfodol.
“Mae hi wastad yn well i fod yn rhy ofalus.”