Mae barnwr oedd yn clywed achosion yn Abertawe, Caerdydd a Chaerfyrddin wedi ymddiswyddo ar ôl honiadau ynglŷn â’i fywyd personol ym mhapur newydd y News of the World.
Cafodd Judge Gerald Price QC, 61, ei atal o’i waith dros dro’r llynedd ar ôl honiadau ynglŷn â phutain gwrywaidd.
Yn ôl y News of the World roedd o wedi cael perthynas naw mis gyda’r putain Christopher Williams, 26, oedd yn gofyn am £250 y noson.
Honnodd bod Gerald Price wedi talu am fflat iddo a’i fod o wedi cael eistedd ar y fainc yn ystod achosion llys.
Cyhoeddodd y Swyddfa Cwynion Barnwrol heddiw ei fod o wedi ymddiswyddo yn dilyn ymchwiliad i’r honiadau.
Roedd yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus eisoes wedi rhoi gwybod iddo y gallai gael ei ddiswyddo.
Ond roedd o wedi ymddiswyddo yn ffurfiol ar 30 Mehefin, cyn i’r ymchwiliad ddod i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Cwynion Barnwrol eu bod nhw wedi canolbwyntio ar yr honiadau oedd yn effeithio ar ei swydd fel barnwr.