Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i fywyd y llofrudd Peter Tobin wedi dechrau chwilio gerddi dau adeilad yn Brighton heddiw.

Roedd y swyddogion yn defnyddio radar er mwyn datgelu a oes unrhyw gyrff neu dystiolaeth wedi ei gladdu dan y llawr yn y cartrefi.

Mae’r helfa yn rhan o ymchwiliad cenedlaethol, o’r enw Anagram, i weld a ydi Tobin yn gyfrifol am unrhyw lofruddiaethau eraill.

Cafodd Peter Tobin, sy’n 63 oed, wybod ym mis Rhagfyr y byddai’n marw yn y carchar ar ôl i lys ei gael yn euog o grogi Dinah McNicol, 28 oed.

Roedd y cyn ofalwr capel eisoes yn y carchar am lofruddiaethau Vicky Hamilton, 15 oed, a Angelika Kluk, 23.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na fydden nhw’n datgloddio’r tir os nad oedd y radar yn dangos fod rhywbeth o bwys wedi ei gladdu yno.

Fe fuodd Peter Tobin yn byw yn Brighton am 20 mlynedd o’r 60au hwyr ymlaen.

Daethpwyd o hyd i gyrff Vicky Hamilton a Dinah McNicol yng ngardd tŷ yn Margate, Caint. Symudodd Peter Tobin yno yn 1991.