Mae cefnwr tîm rygbi menywod Cymru, Non Evans yn gobeithio bod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd fis nesaf, er gwaethaf anaf i’w phen-glin.

Fe gafodd Non Evans yr anaf wrth geisio am le yn nhîm reslo Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn New Delhi ym mis Hydref.

Roedd y sgan gwreiddiol wedi awgrymu bod angen llawdriniaeth ar y Gymraes, ond erbyn hyn mae disgwyl iddi fod yn barod ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon ar 1 Awst.

“Doedd yr anaf i’r goes ddim cynddrwg ag oedd y sgan wedi ei awgrymu’n wreiddiol,” meddai Non Evans.

“Fydda’i mewn bres am yr wythnosau nesaf. Rwy’n gallu cerdded a rhedeg ar y goes, ond mae’n rhaid i fi orffwys neu bydd e’ ddim yn gwella.”

Bydd menywod Cymru yn dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd yn erbyn Awstralia ar 20 Awst, ac mae Non Evans wedi dweud bod y garfan yn edrych ‘mlaen i gael herio tîm gorau’r byd.

“Mae’n gyffrous iawn ac mae pawb yn y garfan yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Awstralia. Mae’r ysbryd yn y garfan yn dda iawn,” meddai’r Gymraes.

“Mae nifer o chwaraewyr oedd wedi methu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ôl ac yn ffit, ac mae yna gystadleuaeth am lefydd yn y garfan.”