Mae Abertawe wedi cyhoeddi mai’r hyfforddwyr Colin Pascoe ac Alan Curtis fydd yn gofalu am y garfan tan y bydd rheolwr newydd wedi cael ei benodi.

Fe gadarnhaodd yr Elyrch bod rheolwr cynorthwyol y clwb, Bruno Oliveira, a’r dadansoddwr gemau, Nelson Jardim, wedi dilyn Paulo Sousa i Leicester City.

Roedd Pascoe a Curtis eisoes yn rhan o staff hyfforddi’r clwb ac roedd y ddau wedi chwarae dros Abertawe a Chymru.

Roedd disgwyl i gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, gyfarfod â chwaraewyr a staff y clwb ddoe, cyn dechrau ar y dasg o ddod o hyd i reolwr newydd cyn dechrau’r tymor.

Olynydd Sousa

Mae nifer o enwau eisoes wedi cael eu crybwyll yn lle Paulo Sousa, gan gynnwys rheolwr Brighton and Hove Albion, Gus Poyet – ond mae’n ymddangos ei fod ef ar fin arwyddo cytundeb newydd yno.

Mae cyn reolwr Coventry, Chris Coleman, a Gary Speed, sy’n hyfforddwr cynorthwyol yn Sheffield Utd, hefyd yn cael eu crybwyll. Ond cymysg yw record Coleman ac mae Speed yn gymharol ddibrofiad.

Mae rhai cefnogwyr wedi bod yn galw ar y clwb i benodi naill ai rheolwr Exeter City, Steve Tisdale, neu Sean O’Driscoll, sydd wedi gwneud gwaith da gyda Doncaster.

Ond un enw arall sydd wedi cael ei grybwyll yw cyn reolwr Middlesborough, Gareth Southgate. Mae cyn amddiffynnwr Lloegr eisoes wedi cydweithio gyda phrif sgowt newydd yr Elyrch, David Leadbeater.

Llun: Stadiwm Liberty