Mae yna adroddiadau’n dod allan o’r Eidal unwaith eto bod rhai o brif glybiau Serie A yn awyddus i arwyddo’r Cymro Gareth Bale o Tottenham.
Yn ôl papur y Corriere dello Sport mae rheolwr newydd Inter Milan, Rafa Benitez yn awyddus iawn i sicrhau llofnod chwaraewr rhyngwladol Cymru.
Mae Inter yn debygol o golli eu hamddiffynnwr, Maicon, sy’n awyddus i ail-ymuno gyda’i gyn reolwr, Jose Mourinho, gyda Real Madrid yn y Bernabeu.
Er bod Bale yn chwarae ar y chwith a Maicon ar y dde, fe allai Inter defnyddio Javier Zanetti neu Davide Santon i chwarae yno, gan agor y ffordd i Bale ar y chwith.
Mae yna barch mawr at Bale yn yr Eidal ac mae AC Milan a Juventus hefyd wedi dangos diddordeb yn y Cymro yn y gorffennol.
Ond gyda Tottenham yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, fe fydd rheolwr y clwb, Harry Redknapp, yn awyddus i gadw Gareth Bale yn White Hart Lane.