Mae’r heddlu arfog yn ardal Newcastle wedi amgylchynu tŷ yn Gateshead wrth iddyn nhw geisio dal Raoul Moat, sy’n cael ei amau o ladd un dyn ac anafu dau berson arall.
Maen nhw hefyd wedi rhoi manylion am gar y maen nhw’n amau sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyn-fownsar 37 oed.
Maen nhw’n dweud y gallai Raoul Moat, 37, fod yn defnyddio Lexus du “swnllyd,” sydd â difrod i’r bymper, a’r rhif adnabod yw V322 HKX. Mae’r car yn eiddo i un o’i ffrindiau
Mae Heddlu Northumbria hefyd yn ymchwilio i ladrad arfog mewn siop sglodion neithiwr yn Blyth, sydd tua 10 milltir allan o Newcastle. Roedd y disgrifiad o’r lleidr yn debyg iawn i Raoul Moat.
Llythyr
Yr honiad yw bod Raoul Moat wedi anafu ei gyn gariad, Samantha Stobbart, 22, ac wedi lladd ei chariad Chris Brown, 29.
Roedd wedi eu saethu mewn tŷ yn Gateshead ddydd Sadwrn, cyn saethu ac anafu heddwas, David Rathbone, 42, yn Newcastle ddydd Sul.
Mae’n ymddangos ei fod wedi anfon llythyr 40 tudalen at Heddlu Northumbria yn dweud ei fod yn casáu’r heddlu ac am barhau i ymosod arnyn nhw “nes cael ei ladd”. Mae copïau o’r llythyr wedi eu hanfon at bapurau newydd.
Mae’n debyg hefyd bod nifer o bobol eraill yn cael eu hamddiffyn rhagddo, ac mae yna bryder ei fod eisiau gorfodi’r heddlu i’w saethu yn farw.
Rhybudd
Roedd adroddiadau ddoe fod staff carchar wedi rhybuddio’r heddlu bod Raoul Moat wedi bygwth anafu ei gyn gariad.
Roedd Carchar Durham wedi rhybuddio’r heddlu ddydd Gwener, diwrnod ar ôl i Raoul Moat gael ei ryddhau o’r carchar.
Mae’r achos wedi cael ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion yr Heddlu.
Llun: Fe ofynnodd yr heddwas, David Rathbone, am i’r llun yma ohono gael ei gyhoeddi, er mwyn sbarduno pobol i helpu i ddal Raoul Moat.