Mae adroddiadau bod Twrci’n bygwth torri ei chysylltiadau gydag Israel oherwydd yr ymosodiad ar longau cymorth i Gaza.
Roedd dau bapur newydd yn y wlad wedi dyfynnu’r Gweinidog Tramor yn dweud hynny, er bod llefarydd ar ran y Llywodraeth wedi ceisio lliniaru rhywfaint ar y bygythiad.
Yn ôl y newyddiadurwyr, roedd Ahmet Davutoglu wedi dweud fod gan Israel dri dewis – ymddiheuro am yr ymosodiad, derbyn casgliadau ymchwiliad rhyngwladol neu weld y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn cael eu torri.
Mae Israel eisoes wedi gwrthod ymddiheuro. Yn ôl ei Phrif Weinidog, Benjamin Netanyahu, “all Israel ddim ymddiheuro oherwydd bod ei milwyr wedi gorfod eu hamddiffyn eu hunain yn erbyn mob oedd bron â’u lladd”.
Er bod Llywodraeth Twrci bellach yn ceisio tawelu pethau, roedd eu Llysgennad yn Washington wedi rhybuddio’r mis diwetha’ bod pwysau’r farn boblogaidd yn y wlad yn gwthio’r Llywodraeth i weithredu.
Y cefndir
Fe gafodd naw o bobol eu lladd yn yr ymosodiad ar ddiwrnod ola’ mis Mai wrth i longau o Dwrci geisio torri trwy flocâd Israel sy’n atal mewnforion i’r Palesteiniaid yn Gaza.
Hyd yma, Twrci yw un o’r ychydig ffrindiau sydd gan Israel yn y Dwyrain Canol.
Llun: Protestio yn erbyn Israel (AP Photo)