Fe allai talp mawr o gefn gwlad Cymru fod yn mynd i ddwylo cronfeydd pensiwn a buddsoddwyr mawr wrth i ystâd anferth fynd ar werth yn y Canolbarth.
Fe fydd cwmni dŵr Hafren Trent yn gwerthu 23,000 erw o dir o amgylch Llyn Efyrnwy – mae’n cynnwys nifer o safleoedd pwysig o ran byd natur a chadwraeth.
Yn ôl y cwmni arwerthwyr, Knight Frank, dyma’r tro cynta’ i gymaint o dir ddod ar werth ar yr un pryd.
Maen nhw’n disgwyl diddordeb gan gronfeydd pensiwn, buddsoddwyr a thirfeddianwyr, gyda’r pris cyfan yn debyg o fod tuag £11 miliwn.
Rhannu’n bedwar
Fe fydd yr ystâd yn cael ei rhannu’n bedwar rhan ar gyfer y gwerthu, gyda’r darn mwya’n 12,000 erw sy’n cael eu ffermio mewn partneriaeth gyda chymdeithas adar yr RSPB.
Mae yna hefyd 5,000 erw o goed sy’n cael eu rheoli gan y Comisiwn Coedwigaeth, 14 o ffermydd a 31 o dai ac adeiladau eraill.
“Fe fydd cyrff eraill yn gallu canolbwyntio’n fwy dwys ar reoli’r tir,” meddai Prif Weithredwr Hafren Trent, Tony Wray.
Y cefndir
Fe gafodd y cwmni’r tir adeg preifateiddio’r diwydiant dŵr – roedd argae Llyn Efyrnwy wedi ei chodi yn 1892, gan foddi pentre’ Llanwddyn.
Ar y pryd, yr argae oedd y fwya’n Ewrop ac mae’n dal i roi dŵr i gwsmeriaid yng nglannau Mersi. Mae hefyd yn denu twristiaid, yn arbennig o’r Midlands yn Lloegr.
Y llynedd, fe wnaeth Hafren Trent elw o £338 miliwm – cynnydd o bron chwarter ar y flwyddyn gynt.
Llun: Llyn Efyrnwy (Seanthespook – CCA3.0)