Mae Prif Weinidog Cymru yn ysgrifennu at y Llywodraeth yn Llundain i brotestio’n erbyn y bwriad i gynnal refferendwm ar y system bleidleisio ar yr un diwrnod ag Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.
Fe fyddai Carwyn Jones yn mynegi ei “wrthwynebiad cryf” i’r bwriad, meddai llefarydd. Fe fydd y llythyr yn mynd yn uniongyrchol at David Cameron, y Prif Weinidog yn San Steffan.
Mae’n glir hefyd y bydd prif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon yn protestio yn yr un ffordd; maen nhw i gyd yn dweud y byddai’r refferendwm yn tynnu sylw oddi wrth yr etholiadau yn eu gwledydd nhw.
“Ddylai dim dynnu oddi ar etholiadau’r Cynulliad,” meddai’r llefarydd ar ran y Llywodraeth yng Nghymru.
‘Dirmyg’
Roedd y Llywodraeth yn Llundain yn dangos “dirmyg” at Lywodraeth Cymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd.
Doedd dim rheswm pam bod rhaid cynnal y refferendwm ar Fai 5 y flwyddyn nesa’, meddai, gan alw ar Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, i symud etholiadau’r Cynulliad i fis Mehefin.
Roedd yn fwy blin fyth oherwydd bod gwrthdaro arall yn debyg o ddigwydd adeg etholiadau’r Cynulliad yn 2015 – ar y dyddiad hwnnw y bydd Etholiad Cyffredinol San Steffan hefyd.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, o blaid cynnal y refferendwm ac etholiadau’r Cynulliad yr un diwrnod – fydd dim gwrthdaro, meddai.
Wrth wneud y cyhoeddiad am y dyddiad ddoe, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Prydeinig, Nick Clegg, y byddai cyfuno’r pleidleisiau’n arbed £17 miliwn.
Cefndir y refferendwm
Y bwriad yw cael refferendwm ynglŷn â system bleidleisio AV, lle byddai etholwyr yn gosod ymgeiswyr mewn seddi unigol yn ôl trefn 1-2-3.
Mae’n un o gonglfeini’r glymblaid yn Llundain ond fe allai’r helynt tros ddyddiadau ei gwneud yn anoddach i’w ennill.
Yn ôl rhai sylwebwyr, fe fyddai colli’r refferendwm yn tanseilio rheswm y Democratiaid Rhyddfrydol tros fod yn rhan o’r glymblaid – yn enwedig gan y byddai eu partneriaid Ceidwadol yn gwrthod ymgyrchu trosto.