Fe fydd y Llywodraeth yn newid y gorchymyn i ddifa moch daear er mwyn tawelu ofnau barnwyr yn y Llys Apêl.

Mewn datganiad ddoe, fe ddywedodd y Gweinidog Materion Gwledig y bydden nhw’n cyfyngu’r gorchymyn i’r ardal brawf yn Sir Benfro – ar hyn o bryd, mae’n cynnwys Cymru gyfan.

Roedd y Llys Apêl wedi mynegi pryder am hyd a lled y gorchymyn gan fod y dystiolaeth yn ymwneud â’r un ardal lle bydd y difa’n digwydd. Y nod yw ceisio atal y diciâu – TB – mewn gwartheg.

Aros am ddyfarniad

Yn y cyfamser, mae’r Llywodraeth yn aros am ddyfarniad y Llys ar ddau fater arall sydd wedi eu codi gan yr Ymddiriedolaeth Moch Daear.

Maen nhw’n honni nad yw’r Llywodraeth wedi dangos y bydd y difa’n gwneud digon i atal y clefyd ac nad ydyn nhw wedi pwyso’r budd yn erbyn effaith y difa.

Yn ôl y Gweinidog, Elin Jones, mae yna dystiolaeth bod cronfa o’r diciâu ymhlith moch daear mewn sawl rhan o Gymru, ac nad oedd unrhyw fwriad i ddifa’r anifeiliaid mewn ardaloedd glân.

Y trefniadau’n barod

Roedd yr holl drefniadau’n barod ar gyfer dechrau difa yn yr ardal brawf, meddai, a’r bwriad gwreiddiol oedd dechrau’r wythnos nesa’.

Mae amheuon y barnwyr wedi eu croesawu gan y Blaid Werdd yng Nghymru. Yn ôl eu llefarydd, Jake Griffiths, mae’r Ymddiriedolaeth Foch Daear wedi dangos bod achosion o’r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru yn lleihau beth bynnag.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn dadlau mai brechu moch daear yw’r ateb.