Mae disgwyl y bydd adroddiad annibynnol yn awgrymu rhoi’r hawl i’r Llywodraeth yng Nghymru godi ei threthi ei hun.
Hwn fydd yr ail adroddiad gan Gomisiwn Holtham ac mae’n debyg o ddweud bod angen hawliau trethu er mwyn democratiaeth – trwy wneud y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn fwy atebol.
Roedd Cadeirydd y Comisiwn, y cyfrifydd Gerry Holtham, wedi cynnal nifer o sesiynau trafod ar draws Cymru i gael barn pobol am y syniadau ac wedi awgrymu bryd hynny mai newid yn y dreth incwm oedd fwya’ tebyg.
Fe allai olygu bod Cymru’n colli rhywfaint o’r arian bloc sy’n dod o Loegr ond yn cael yr hawl i arian trethi yn lle hynny.
Mae’n bosib hefyd y bydd yn awgrymu rhoi’r hawl i Lywodraeth y Cynulliad fenthyg arian – mae cynghorau lleol eisoes yn gallu gwneud hynny.
Pryderon
Ond mae yna bryderon hefyd – os yw’r hawl i drethu wedi ei gyfyngu at y lefel isa’, fe fyddai ei godi’n golygu cosbi’r bobol dlota’.
Dyw Llywodraeth yr Alban ddim wedi defnyddio ei hawl hi i amrywio treth incwm o 3c i fyny neu i lawr.
Yn ei adroddiad cynta’, roedd Comisiwn Holtham wedi galw am newid Fformiwla Barnett sy’n trosglwyddo arian o Lundain i weddill gwledydd Prydain.
Fe ddywedodd bod Cymru ar ei cholled o tua £300 miliwn bob blwyddyn ac y dylai’r fformiwla gydnabod anghenion.
Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi penodi’r Comisiwn.